Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhechod wrth it, a'm hanwiredd ni chuddiais; dywedais, cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod." Ychydig ddyddiau ar ol hyn, mae yn ysgrifenu fel hyn:—"O na byddai yr holl fyd yn profi y fath sylwedd, ac yn teimlo y fath rym a chysur mewn crefydd, ag wyf fi yn deimlo yn bresenol. Mae yr Arglwydd wedi maddeu fy mhechod, ac yn darostwng fy llygredd. Mae yn tarfu fy ngelynion, ac yn symud fy ofnau. Mae yr ychydig a brofais i o bethau y nefoedd ar y ddaear, yn ei gwneud yn nefoedd yma; ond yn y nef ei hun, lle mae gwyneb fy Mhriod i'w weled heb un llen, a'i holl berffeithiau yn ymddisgleirio heb un gorchudd. O mor fawr fydd y wledd, mor rhyfedd y mwynâad; lle caf oleuni tragywyddol, gweledigaethau tragywyddol, a thebygolrwydd tragywyddol, i'r Duw tragywyddol!"

Cafodd Mr. Williams y tro hwn, y fath gasineb at y pechod o feddwdod, fel y clywais ef yn dywedyd, na bu y peth byth wedi hyny yn brofedigaeth iddo. Ac mewn llythyr at ei frawd, 1784, mae yn dywedyd, "I Dduw y byddo'r diolch, yr wyf wedi cael y fath oruchafiaeth ar y pechod a wyddoch chwi oedd barod i'm hamgylchu, fel nad oes neb o'm cyfeillion yn fy nrwg-dybied: a thrwy drugaredd nid oes raid iddynt."