Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ti arbed hyd yma, arbed i fywyd tragywyddol. Deuaf atat fel y Publican, gan ddywedyd, O Dduw bydd drugarog wrthyf bechadur. Y Duw sydd anfeidrol mewn trugaredd, trugarhâ wrthyf finnau. Bydd drugarog wrth fy anghyfiawnderau, a'm pechodau, a'm hanwireddau, na chofia ddim o honynt mwyach. Cyfiawnhâ fy enaid euog trwy dy ras, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu. Ac O, pura, sancteiddia, glanhâ, a dyro galon newydd i mi 0 Dduw. Cefais galon arall genyt lawer gwaith: ond yr wyf heb y galon newydd. Calon newydd wyf yn ymofyn, pe byddai i mi gardota fy mara o ddrws i ddrws. Bydded i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragywyddol a'i hoffrymod ei hun yn ddifai i Dduw, buro fy nghydwybod oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw. Gogonedda dy ras yn fy iachawdwriaeth, bechadur tlawd, &c., &c.

Fel hyn y trodd ei wyneb, ac yr ymroddodd i geisio yr Arglwydd, gan barau mewn gweddiau ac erfyniadau taerion hyd doriad y dydd; ac mae yn debygol i'r Arglwydd yn fuan, ddangos ei hun yn Dduw parod i faddeu; yr hyn a barodd iddo yntau dorri allan mewn diolchgarwch, gan ddywedyd, "Diolch am radd o lonyddwch oddi wrth of a drag. O na fydded i mi mwyach dderbyn ysbryd eaethiwed i beri ofn, ond ysbryd mabwysiad, trwy yr hwn y gallwyf lefain Abba Dad. Addefais fy