Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwybrau sancteiddrwydd, cyn dyfod i Lanfair-yn-muallt: oblegid byddai yn fynych yn cael ei orchfygu gan y pechod o yfed i ormodedd; ac fel yr oedd un tro yn claddu un o'i blwyfolion,[1] ac yn sefyll ar fin y bedd, yn datgan y geiriau "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw, &c.," trwy effaith diod gadarn, bu agos iddo syrthio i'r bedd, a hyny a wnaethai ddïammau, oni buasai i gyfaill oedd yn ei ymyl ymfaelyd ynddo, a'i achub! Effeithiodd hyn gymmaint arno, fel y sobrodd yn hollawl yn y fan. Aeth i'w letty dan wylo yn chwerw-dost, ac i'w ystafell yn ddioed; ac ni welwyd ef hyd y boreu dranoeth. Ni chysgodd ef ddim y noson hono; ond, a'i galon yn ddrylliog, ac a'i enaid yn toddi gan drallod, gwnaeth ei wely yn foddfa. Gellir cael graddau o olwg ar y cyfyngder caled y bu ynddo, wrth y cyfaddefiadau a'r saeth-weddïau canlynol o'r eiddo ef ar yr achlysur hwnw:—"Dywedaf wrth y pwll, tydi yw fy nhad; ac wrth y pryƒ, fy mam aʼm chwaer wyt. Fy ngheudod sydd anwireddau Nid oes ynof fi ddim da yn trigo. Aflan, aflan! Mae fy nghalon fel Babilon, yn lletty cythreuliaid, ac yn nyth pob aderyn aflan ac atgas! Rhyfedd, o Dduw na buasit ti yn fy nghauad i fynu mewn anobaith, ac mewn cadwynau tywyllwch gydâ'r diafol, hyd farn y dydd mawr! Pa beth a ddywedaf? gosodaf fy llaw ar fy ngenau, i edrych a oes gobaith Gan

  1. Cefais yr hanes uchod gan y Parch. James James, o'r Fenni.