Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd hyd ddydd ei marwolaeth ac yn dra adnabyddus i gasglydd hyn o hanes. Ymddengys fod ei dad ar daith yn Ngogledd Cymru, pan gafodd y Parch. John Williams ei sefydlu yn Llanfair; a disgynai yr awen ar yr hen gathlydd peraidd ar ei daith; ysgrifenodd gân go ddigrif ato, un pènill o ba un sydd fel y canlyn:

"Hed y Gwccw, hed yn fuan, hed, aderyn glas ei liw, "Hed oddi yma i Bant-y-celyn, gwed wrth Maly 'mod i'n fyw; "Hed oddi yno i Lanfair-'muallt, gwed wrth Jack am gadw'ile "Ac os na chaf ei weled yma, caf ei weled yn y ne‘.

Mewn ymddiddanion â Mr. Williams, clywais ef yn sylwi lawer gwaith, bod gormod o weniaeth yn hanesion dynion duwiol; o herwydd y byddir yn coffâu eu rhinweddau yn unig, ac yn cuddio eu holl golliadau. Gan mae dyna oedd ei farn ef, a chan fod yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythyr, yn coffầu beiau duwiolion er gocheliad i ni, yn gystal a'u rhinweddau er siampl i ni; mi feddyliwn mai nid anweddus fyddai coffâu yma ei wendid yntau hefyd, yn enwedig pan ystyriom y coffa galarus sydd ganddo ef ei hun am ei fai, yn ei holl lythyrau at ei gyfeillion. Er bod Mr. Williams er yn ieuanc, a phethau gobeithiol ynddo, yn wastad o ymddygiad boneddigaidd; ac ar ol cael ei neillduo i'r weinidogaeth yn cael ei barchu gan bob gradd, fel gwr dysgedig a gwybodus; eto, mae yn debygol, (a hyny oedd ei feddwl ef ei hun,) nad oedd wedi cael tröedigaeth wirioneddol at Dduw, ac i