Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwedi iddo gael ei urdd Offeiriadol, ni chafodd yr un Plwyf dàn ei ofal, nes iddo gael perigloriaeth (curacy) Llanfair-yn-muallt, a Llanddewi'r-cwm, yn mis Awst, 1782. Ond byddai yn gweinyddu dros eraill, pa le bynnag y byddai galwad am dano; a bu yn gwasanaethu amryw weithiau yn Llanfairar-y-bryn, y Plwyf lle ganed ef, a lle mae ei gorph yn awr yn gorwedd, hyd oni chyfodir y meirw yn Nghrist.

Ar gais y diweddar Barch. Mr. Jones o Langana, gwr y bydd ei goffadwriaeth byth yn fendigedig, aeth Mr. Williams i Langrallo, yn Morganwg, yn Ionawr, 1781, a bu yno yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn rhai o'r Llanau cymmydogaethol, hyd oni symmudodd i Lanfair-yn-muallt, yn Awst, 1782. Mae yn debygol ei fod yn barchus iawn yn Morganwg gan rai o uchelwyr y wlad; oblegid cair fel hyn yn ysgrifenedig yn ei Gôd-lyfr, Mai 30, 1781. "Heddyw, pregethodd yr Esgob Barrington a minnau, y naill ar ol y llall, yn Nghymmanfa fisol yr Offeiriaid, yn Mrô Morganwg: ei arglwyddiaeth yn Saesoneg, a minnau yn Gymraeg." Nis gallasai fod yn anenwog iawn, pe amgen, ni roddasid ef i bregethu ar y fath achlysur, ac yn enwedig gyda'r Esgob.

Ar ei symmudiad i Lanfair-yn-muallt, aeth i lettŷa at Law-feddyg cyfrifol, o'r enw Jones, gwraig yr hwn oedd yn ddynes dduwiol, ac yn aelod ffydd-