Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo heb weithredoedd." "Yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawneir dyn heb weithredoedd y ddeddf." I'r ail, attebodd fel hyn:-"Wrth ffydd yn unig, yr wyf yn deall, egwyddor ysbrydol, ag mae yr Ysbryd Glan yn ei phlanu yn enaid dyn yn yr adenedigaeth, yr hon egwyddor sydd yn ei ddysgu synied yn addas am Dduw, ac am dano ei hunan; ac yn ei alluogi i ymorphwys ar gyfiawnder Crist am gymeradwyaeth gydâ Duw; i ymddiried yn ei waed ef am faddeuant a glanâad; ac yn y cyflawnder sydd ynddo am bob trugaredd i fywyd tragywyddol." Ni welodd yr Esgob yn addas i godi yr un wrthddadl, yn erbyn ei atebion addas ac ysgrythyrol; yr unig gyngor a roddodd iddo wrth ymadael oedd, "Byddwch wych fy mab; gochelwch na wneloch ddim cyfeillach a'r Methodistiaid, a dïammau genyf y byddwch yn gysur i chwi eich hun, ac yn addurn i'r Eglwys." Ar hyn ymadawodd Mr. Williams yn siriol, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am y cymmorth a'r llwyddiant a gawsai: ac ar y ffordd adref, dywedai rhyngddo ag ef ei hun, "Nid yw fy arglwydd Esgob yn adnabod y Methodistiaid hyn, cystal ac yr adwaen i hwynt, pe amgen, ni buasai yn fy annog i beidio cyfeillachu a hwynt. Arglwydd, na ddyro y pechod hwn yn erbyn dy hen was! Ac am danaf finnau, byddaf waelach etto na hyn; byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun, a chyda'r llaw-forwynion. (am y rhai y llefurai yr Esgob,) y'm gogoneddir."