Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yfory." Diolchodd yntau iddo yn barchus, a'r Esgob a'i wraig a ymadawsant dan wênu.

Y canlyniad o hyn a fu, iddo gael ei osod yn îsathraw yn yr ysgol hòno: ac am ei wroldeb hwn, mae ei dad yn ei ganmol yn wresog mewn llythyr at ei fab henaf:—"Bydd wrol, Billy," ebe efe "mae pregethwr. heb wroldeb fel durlif heb ddanedd, fel cyllell heb awch, neu fel milwr heb galon. Aeth dy frawd Jacky ei hun i ymddiddan a'r Esgob, ar yr heol yn Nghaerfyrddin, a chafodd ei wobrwyo am ei wroldeb." "Mae ofn dyn yn dwyn magl."

Gwedi iddo gael hawl-fraint i Eglwys Llanfynydd, yn Swydd Gaerfyrddin, cafodd ei urddo yn Ddyweinydd, (Deacon,) gan yr Esgob Warren, yn Nghapel Llys yr Esgob, yn Abergwili, ar y Sabbath y 17eg o Hydref, yn y flwyddyn 1779, sef y flwyddyn gyntaf o gyssegriad yr Esgob Warren. Cyn pen y flwyddyn, sef Medi y 3ydd, 1780, cafodd ei urddo yn Offeiriad gan yr un Esgob. Yr unig holiadau am dduwinyddiaeth a ofynodd yr Esgob iddo wrth ei urddo oedd, y ddau a ganlyn. 1. Beth oedd cyfiawnâad? 2. Beth oedd yn ei feddwl wrth ffydd yn unig? I'r gofyniad cyntaf, atebodd Mr. Williams fel hyn:—"Wrth gyfiawnhad, yr wyf yn deall, fod pechadur euog yn cael hawl personol yn nghyfiawnder Crist trwy ffydd yn unig. "Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn, y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder