weinidogaeth yr efengyl. Gwedi iddo fod am rai blynyddoedd yn yr athrofa uchod, yr oedd J. Williams, drwy athrylith a diwydrwydd, nid yn unig wedi rhagori ar ei gyd-ysgolheigion, ond hefyd yn cyd-raddu â'i athrawon; fel nad oedd ganddynt mwyach ddim i'w ddangos iddo, ar nad oedd eisioes. wedi ei ddysgu.
Yr oedd y pryd hwn yn rhy ieuanc i dderbyn urddau eglwysig, ac yn rhy fywiog a deffro ei ysbryd, i dreulio ei amser mewn segurdod. Fel yr oedd un prydnawn-gwaith yn myfyrio pa beth a wnelai; canfu trwy y ffenestr, yr Esgob a'i wraig yn rhodio ar yr heol: aeth allan yn ddioed i'w cyfarfod ac a gyfarchodd yr Esgob fel y canlyn:"Fy arglwydd, a fyddwch chwi mor ostyngedig a chaniatâu i mi gael ymddiddan gair a chwi?" Caniataodd yr Esgob hyny yn dirion iddo, ac yntau a aeth rhagddo, "Fy arglwyd, mae yn hysbys i'ch arglwyddiaeth fy mod i wedi dysgu y cwbl sydd ganddynt i'w ddysgu i mi yn yr athrofa hon, a chan nad wyf yn ewyllysio treuliaw dim o'm hamser yn segur; yr wyf mewn cyfyng-gyngor pa beth i'w wneyd, hyd oni ddelwyf mewn oedran i gael fy urddo: a gair o gyngor gan eich arglwyddiaeth yn fy amgylchiad presenol, yw yr hyn yr ydwyf yn ddeisyfu yn daer ac yn ostyngedig." Atebai yr Esgob ef yn fwynaidd, "Gellwch ddisgwyl clywed oddiwrthyf, John Williams, yn nghylch y pryd hwn