Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yrau, a grymus iawn a fu effeithiau yr ysgrythyrau ar ei galon a'i holl ymddygiad ef, trwy ei oes.

Derbyniodd gynsail egwyddorion ei ddysgeidiaeth gan ei dad ei hun; a chychwynwyd of mewn dysgeidiaeth awdurawl, (Classical Learning,) dan ofal un Mr. Williams, yr hwn oedd y pryd hyny yn athraw ysgol yn y lle a elwir Coed-cochion, ond a fu gwedi hyny yn Weinidog yn yr Eglwys Sefydledig, ac hefyd yn pregethu yn deithiol yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. `Yr oedd Mr. J. Williams yn barchus ac yn anwyl iawn o'i hen athraw hyd y diwedd, fel yr ymddengys oddiwrth lythyr a ddanfonodd at ei frawd, y Parch. W. Williams, Offeiriad yn Truro, yn Nghernyw, lle mae yn crybwyll am dano fel hyn:-"Mae Mr. Williams, Feriglor Llandeilo'r-fàn, yr athraw cyntaf a goreu a gawsoch chwi a minnau, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Cyfarfu ar ei bererindod â chroesau trymion, ac âg aml ddrygau; ond gwaredodd yr Arglwydd ef oddiwrthynt oll. Bu farw dan ganu "fordd newydd wnawd gan Iesu Grist, &c."

Gadawodd ar ei ol dri o feibion, yn Weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig.

Pan yn nghylch pymtheg oed, symudwyd Mr. Williams oddi dàn ofal ei hen athraw duwiol i'r Ysgol Ramadegol yn Nghaerfyrddin: lle y gorphenodd y ddysgeidiaeth hono, sydd fel llawforwyn, yn wasanaethgar iawn, ac yn dra angenrheidiol, i