Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Barch. John Williams, o Bant-y-celyn: gwr teilwng iawn i'w gofiant gael ei ysgrifenu gan y mwyaf doniol a llithrig yn y dywysogaeth; ond gan mai arnaf fi y disgynodd y coelbren am y gorchwyl, nid oes genyf ddim i'w wneyd, ond hel yn nghyd gymmaint o ddefnyddiau a allaf, a'u gosod ger bron y darllenydd mor drefnus ag y medraf, gan feddwl yn sier, y bydd yn dda gan filoedd yn ein gwlad, gael hyn o goffadwriaeth am y gwr enwog hwnw.

Mr. John Williams, ydoedd ail fab i'r Parch. William Williams, o Bant-y-celyn, yr awen-fardd godidocaf, a mwyaf defnyddiol i Eglwys Crist, a fu yn mhlith y Cymry erioed: gwr y bydd ei enw fel ei waith, yn arogli yn beraidd iawn, tra parâo crefydd Iesu, yn mhlith unrhyw enwad union-gred yn y dywysogaeth. A diamau y pery hyny weithian. hyd derfyn byd.

Ganwyd John Williams ar y 23ain o fis Mai, ya y flwyddyn 1754. Yn ei fabandod, ei febyd, a'i ieuenctid, ymddengys oddiwrth lythyrau ei dad, bod golwg gyflym a gobeithiol arno; a'r hen wr fel pe buasai yn darllen rhyw beth yn ei wynebpryd, neu yn hytrach yn meddu gradd o ysbryd prophwydoliaeth, a ddywedai yn aml, "E fydd Jack yn wr cadarn yn yr ysgrythyrau." Pa beth bynnag a gynhyrfai yr hen Ganiedydd peraidd i feddwl felly, ac i ddywedyd felly, am ei fab, iawn y meddyliodd, ac iawn y dywedodd: cadarn a fu efe yn yr ysgryth-