Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFFADWRIAETH
Y
PARCH JOHN WILLIAMS.

CWYNIR yn athrist gan y prophwyd Esay 57. I. Fod y cyfiawn yn marw, ac ni esyd neb at ei galon, a bod y gwyr trugarog yn cael ei cymmeryd ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymmerir y cyfiawn ymaith. Mae yn debyg nad oes yr un genedl gristionogol wedi bod yn fwy euog o'r cyhuddiad trwm uchod, na'n cenedl ni, y Cymry. Cododd yr Arglwydd lawer o ddynion enwog mewn dawn, dysgeidiaeth, llafur, a defnyddioldeb yn ein plith; ond cyn gynted ag y buant feirw, hwy a ebargofwyd yn y ddinas, ac yn y wlad lle buont yn llafurio.

Mae yn wir fod peth diwygiad o'r esgeulusdra hyn yn y blynyddoedd diweddaf, os gellir ei alw yn ddiwygiad hefyd; sef ysgrifenwyd hanes amryw o ddynion ieuainc duwiol a gobeithiol, gan rai o'u cyfeillion a'u cyfoedion, tra mae llawer o'r hen bobl enwog a llafurus, y rhai a ddygasant bwys y dydd a'i wres, yn cael eu gadael i fyned i dir angof, heb son am danynt. Un o'r cyfryw ydoedd y diweddar