Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymroddodd i waith y weinidogaeth yn mhlith y Methodistiaid CaIfinaidd; yn sir Frycheiniog yn fwyaf neillduol; er mai Llanddyfri, yn sir Gaerfyrddin, a gafodd y fraint o gael ei enw ef yn ei plith, fel aelod eglwysig. Yr oedd efe er hyny yn ystyried ei hun, ac yn cael ei ystyried gan ei frodyr, yn aelod o Gymdeithas a chyfarfod Misol sir Frycheiniog, hyd ddydd ei farwolaeth. Ni bu y Parch. John Williams erioed yn gymaint o deithiwr a'i dad, ac a llawer eraill o'r hen bobl yn moreu y diwygiad; ond cyfyngai efe ei lafur gan mwyaf o fewn swydd Frycheiniog, a rhan o swydd Gaerfyrddin. Eto, bu amryw weithiau yn ymweled a'r holl eglwysi yn y Deheubarth, a bu ddwy waith hefyd yn y Gogledd. Y tro cyntaf y bu trwy Wynedd oedd, yn 1800; a'i gyfaill ar ei daith y tro hwnw oedd, Mr. John Prytherch, o'r Defynog. Gwedi dychwelyd o'r daith hono, mae yn ysgrifenu at ei frawd fel hyn:—"Yr ydwyf newydd ddychwelyd o daith, o 600 o filldiroedd o leiaf. Pan ysgrifenasoch chwi eich llythyr diweddaf, yr oeddwn yn Dolgellau, yn sir Feirionydd, mewn Cymmanfa. Yn y daith hon yr oeddwn yn llefaru yn gyffredin, dair gwaith yn y dydd, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd ddwy waith; ac yn trafaelu tua phymtheg milldir, y naill ddiwrnod gyda'r llall. Yn fy holl daith, ni chlywais am gymaint ag un gweinidog effro yn yr Eglwys Sefydledig! O mor drwm