Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw, pan mae yr Arglwydd yn dywedyd, "Yr Offeiriaid a ddywedant, Pa le mae yr Arglwydd? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi." Ond mae yr Arglwydd yn cyfodi iddo ei hun fugeiliaid o blith y crefftwyr a'r ffarmwyr, y rhai sydd yn ei law ef, yn afonyddu y byd. Nid yw satan yn cynhyrfu dim wrth bregethu moesoldeb, a rhinweddau da; iechydwriaeth Iesu sydd yn ei gynhyrfu ef; dyna sydd yn cloddio ei allorau i lawr, yn gwaredu y caethion, yn datod gweithredoedd y diafol, &c. Nid rhyfedd i'r apostol ddywedyd, "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Nid oedd arno gywilydd i'w chredu fel dyn, i'w phroffesu fel cristion, i'w chyhoeddi fel apostol, nac i farw ynm i hachos fel merthyr."

Yn 1802, aeth drachefn i Ogledd Cymru: ei gyfaill y tro hwn oedd, Mr. William Bevan, Trecastell. Wedi dychwelyd, mae yn ysgrifenu eilwaith at ei frawd fel hyn:—" Teithiasom trwy holl siroedd Gogledd Cymru, a rhan helaeth o siroedd Amwythig a Chaerlleon. Yn Nghaer, cyfarfuom a'r Parch, Mr. Charles, o'r Bala: mae yn ddrwg genyf ddywedyd, fod y chwydd gwyn yn ei law ef, ac mae y Llaw-feddygon yn barnu bydd rhaid ei thori ymaith. Yr achlysur o hono oedd, cael anwyd wrth groesi un o fynyddoedd sir Feirionydd, Yr ydwyf yn ofni y bydd i'r gwas ffyddlon hwn i Grist, farw yn ferthyr, o herwydd ei fawr ymdrech yn yr