Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos goreu. Er gwaned oedd, darllenodd y gwasanaeth ddwy waith o fy mlaen i yn Nghaer. Pan glywoch fy mod i wedi bod ar daith mor fawr trwy Wynedd, diau y disgwyliwch i mi ddywedyd rhyw beth am y mynyddoedd gwylltwedd, a'r golygiadau anhygoel sydd yno; ond y gwirionedd yw, yr oedd pwysfawrogrwydd y gwaith, a lludded corphorol, yn marweiddio yn llwyr, bob ymofyniad ysgafn-fryd, (curious,) ac sydd mor naturiol i chwi a minau wrth natur. Er bod llawer o fynyddoedd yn y Gogledd, eto y mae yno lawer o wlad dda odiaeth; ac mae y trigolion yn bobl lanwaith, lettygar, ac o ymddygiadau rhagorol."

"Yn sir Fôn, creffais ar y lle a elwir y Plas Newydd; lle y bu Owen Tudur gynt yn byw, yr hwn a ymbriododd a Chatherine, gweddw Harri y V: y mae cof-arwydd am dano yno hyd heddyw. Owen Tudur oedd y dyn glanaf yn ei oes; ond nid oedd o waedoliaeth uchel. Dywedir bod ei fam yn cadw geifr gydâ hi yn y tŷ, yn gyfeillesau, yn lle pendefigesau; ac ei bod yn wastad yn ciniawa oddi ar ddisgl bren ar ei gliniau. Nis gwyddwn i o'r blaen fod breninoedd Lloegr yn hanu o Mona Antiqua, ond y mae'n debyg mai felly y mae ; ac y mae pobl sir Fôn yn hynod o debyg yn eu gwynebpryd i lun Ilarri VIII. Ond y mae yr efengyl wedi peri iddynt ragori yn mhell mewn ffyddlondeb a serchawgrwydd ar y tywysog hwnw; oblegid,