Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallwch deithio o Ddyfnaint i Fôn, heb gyfarfod a phobl mor serchog i ddieithriaid."

Mewn llythyr at ei frawd, 1808, ar ol coffau gydâ galar dwys am farwolaeth William Lloyd, Ysw., o Gaio, mae yn dywedyd fel hyn:—"Amser nithio yw hwn, ac y mae pob peth yn galw arnom i wylio a gweddio. Mae yr Arglwydd wedi digio, mae y cleddyf wedi ei dynu allan mewn amryw ffyrdd, ac nid oes dim ond gweddi daer a bair iddo fyned yn ol i'r wain. Ond yn nghanol rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; efe a edwyn y rhai sydd eiddo ef, ac y mae pob peth yn cyd weithio er daioni iddynt hwy. Mae dyben dynion yn un peth, a dyben Duw yn beth arall: ond cyngor yr Arglwydd hwnw a saif."

Mewn llythyr arall at ei frawd, 1812, y dywed, "Nid oes un Offeiriad yn perthyn i gorph y Methodistiaid yn y sir hon (Brycheiniog,) ond fy hunan, mae y pellder rhyngom ni a'r Eglwys Sefydledig yn ymledanu bob dydd; ac mae y bobl ieuainc yn cymmeryd yn ganiatâol, nad yw yr Eglwys ond math o gristionogrwydd gwladol: mae yr hen bobl o hyd yn meddu gradd fawr o ragfarn o blaid yr Eglwys, ond nis gwaeth gan y dosparth ieuainc o honom pe byddai yr holl Offeiriaid wedi eu hall-