Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dudio i'r ochr draw i'r Ganges. Ond er hyn i gyd nid yw yr Offeiriaid yn Neheudir Cymru wedi cyhoeddi dim yn erbyn ein corph ni, ac nid oes neb o honom ninau yn ddirgel nac yn gyhoedd, yn beiddio dywedyd dim yn anmharchus am yr Eglwys wladol.

Yr oedd iechyd Mr. Williams yn adfeilio er ys blynyddoedd, o herwydd yn Hydref 14, 1814, mae yn ysgrifenu at ei frawd; ac wedi coffau yn hiraethlawn am farwolaeth y Parch. Mr. Charles, o'r Bala, mae yn dywedyd fel hyn:—"Mawr y golled a gafodd Cymru oll, ac yn enwedig corph y Methodistiaid yr oedd ef yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd ; cyhoeddodd amryw o lyfrau rhagorol. Efe a gyhoeddod ar fy nymuniad i hanes bywyd ein tad: myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgoedd a chroen; myfi a ddanfonais. y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad. Pan gofiwyf am ei ddefnyddioldeb yn ein plith, a'n bod wedi cael ein hamddifadu o hono; yr wyf yn dychymmygu nad oes genyf ond dywedyd, "Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth." Ni chaniatâ fy iechyd i mi fyned nemawr oddi cartref i bregethu yr efengyl, yr hyn sydd ofid mawr i mi: ac yr wyf yn esgeuluso ambell i Gyfarfod Misol, o herwydd nas gallaf nacâu fy nghy-