Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoeddiad, gan daerineb y cyfeillion, a minau yn gwybod fy mod yn analluogi fyned ato. Nid yw gwiw i mi ddywedyd wrth fy mrodyr anwylaf am fy afiechyd, ni wnant ond chwerthin am fy mhen, gan feddwl nad oes dim ond yr hip yn fy mlino, canys felly y galwant hwy bob peth nad ydynt hwy yn ei ddeall, ac ni chredant fod un clefyd ar bregethwr ond yr hip, nes clywed ei fod wedi marw; yna dywedant wrth ei gilydd, "Mae yn debyg ei fod ef yn afiach er ys blynyddoedd, er nad oeddem ni yn ei gredu." Pan fyddwyf fi gartref, yr wyf yn treulio y rhan fwyaf o'm hamser yn darllen y Beibl, a sylwadau y Dr. Gill arno. Yr wyf wedi darllen y rhan fwyaf o'r naw llyfr un plyg, (9 vol. folio.) Yr wyf yn hoffi canlyn y Doctor i bob man ond i'r afon, er ei fod efallai, wedi dywedyd rhai pethau fel uwch gwympiedydd,[1] a milflwyddiedydd,[2] y buasai cystal iddo beidio. Eto, pwy bynag a gymero y boen i ddarllen, gwaith y Doctor, caiff ei wobrwyo yn gyflawi am ei lafur, ac i'm tyb i, a gaiff gymaint o wybod-

  1. Uwch-gwympiedydd, (Supralapsarian,) un yn dàl fod Duw wedi ethol rhai, a gwrthod y lleill, o ddynolryw, yn ei arfaeth dragywyddol, fel ei greaduriaid, yn hytrach nac fel creaduriaid syrthiedig. Tybia yr Is-gwympiedydd, (Sublapsarian,) fel arall, mai gyda golwg ar ddynion fel creaduriaid syrthiedig, yr etholodd Duw rai.
  2. Mil-flwyddiedydd, (Millenarian,) un yn dal y daw Crist, i deyrnasu ar y ddaear am fil o flynyddoedd.