Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth ddefnyddiol, a phe darllenai yr holl lyfrau a ysgrifenwyd."

Mewn llythyr arall at ei frawd, y mae yn ysgrifenu yn y dull syml a hunan-ymwadol hyn:—"O mor druenus yw i ni yn anad neb dynion, drysori i ni ein hunain drysorau ar y ddaear, a ninau yn anog eraill i dysori iddynt drysorau yn y nef! Ond cofiwch hyn, pa le bynag y byddo eich trysor, yno bydd eich calon hefyd. Yr wyf fi yn ei gweled yn ddyledswydd arnaf, i weddio dros yr holl fyd; yn enwedig dros fy mherthynasau yn ol y cnawd: ond fy unig gyfeillion ar y ddaear yw pobl grefyddol, yr wyf yn caru y rhai hyn gyda pha blaid bynag o gristionogion y byddont. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo mwy o anwyldeb at fy mrodyr y Methodistiaid na thuag at neb arall; nid am fy mod yn meddwl eu bod hwy yn fwy duwiol nac eraill, ond am fy mod i wedi arfer mwy a hwynt, a chael cymaint prawf o'u ffyddlondeb. Yr wyf fi mor ddall i'm camsynadau fy hunan, fel ag ydwyf yn ei chyfrif yn fraint fy mod gyda chorph o bobl a ddywedant am fy ngholled wrthyf, ac ni oddefant bechod ynof." Mewn llythyr at ei frawd mae yn ysgrifenu fel hyn: "Yr oeddwn i yn adnabod un gwr boneddig a fyddai yn arfer dywedyd yn ei fywyd, nad oedd yr un uffern; ond wrth farw, gwnaeth ei lw ei fod ef yn myned yno! Cysgod yw y cwbl yr ochr hyn,