Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond sylwedd yw pob peth yr ochr draw.[1]. Byddai yn dda genyf glywed a ddarllenasoch chwi Ail Adroddiad Blynyddol, y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor. Casglodd y Methodistiaid tlodion yn Nghymru, ddwy fil a phum cant o bunau! ac enwau eraill yn ffyddlon yn ol eu gallu. Mae Esgobion Llundain, Durham, Exeter, a Thy-ddewi, yn Rhaglywyddion y Gymdeithas; ond y mae yn ddrwg genyf weled cyn lleied o enwau yr offeiriaid wrth res y cyfroddwyr; mae hyn yn dangos nad ydynt hwy am i wybodaeth ysbrydol ymdaenu; a chan nad ydynt yn darllen dim o'r Beibl eu hunain, ond yr hyn sydd raid iddynt ei ddarllen, nid ydynt am i neb arall ei ddarllen. Maddeuwch fy mod i mor eon ar fy hen frodyr yr offeiriaid; cariad atynt, ac eiddigedd drostynt yw yr achos fy mod yn dywedyd fel hyn. Na thybied neb fy mod i yn elyn i fy Mam-eglwys; ond nid wyf yn ddall i'r pethau beius sydd ynddi. Gellwch ddeall fod genyf fi barch mawr, nid yn unig i bersonau yn yr Eglwys Sefydlelig, ond hefyd i'w chyfansoddiad, pan y dywedwyf wrthych, fy mod yn darllen bob dydd, y peth cyntaf yn y boreu, y Salmau gosodedig gan yr Eglwys "

  1. All, all on earth is Shadow, all beyond
    Is Substance; the reverse is Folly's Creed:
    How solid all, where change shall be no more?
    Dr. Young's Night Thoughts, Night 1. page 5