Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn ddibaid mewn gweddi; ac yn ymwrthod yn hollawl â'i gyfiawnder ei hun, fel sail am gymeradwyaeth gydâ Duw: ni allai oddef clywed son am ddim o'r holl ddaioni a wnaethai yn ei oes. "Gwas anfuddiol" oedd ei iaith yn wastad; ond er hyny, yr oedd yn hyderu yn ddiysgog am fywyd tragywyddol yn rhad ac yn rhodd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Y tro diweddaf y gwelodd yr ysgrifenydd ef, galwodd arnaf yn ol, wedi i mi fyned allan o'r tŷ. Rhyfeddais am hyny, a minau wedi canu yn iach iddo yn y Parlawr. Mi droais yn fy ol, a gofynais "A oeddech chwi yn galw arnaf, syr?" 'Dim', ebe yntau, 'ond hysbysu i chwi, na chewch fy ngweled i ar y ddaear hon byth mwy.' 'Caf, gobeithio,' ebe finau, lawer gwaith etto.' 'Na ddywedwch felly,' ebai yntau; a chan edrych yn ddifrifol yn fy wyneb, gwelodd fy ngwedd yn newidio, ac ar yr unwaith edrychodd yn nodedig o siriol arnaf, gan ddywedyd, "Y cwbl wyf yn geisio genych yw, gweddio drosof am i mi gael myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch, heb ymollwng dan ddyrnod angeu. Ond yr wyf yn dra sicr, pwy bynag a gofio am danaf, a phwy bynag a'm hanghofio, y mae Un na anghofia 'mohonof: a chaf weled yr Arch, a Josua yr Archoffeiriad, pan fyddwyf yn colli fy ngolwg ar bob peth arall."