Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd hyn tua haner blwyddyn cyn iddo farw, ac-fel y dywedodd efe, nis gwelais ac nis gwelaf fi ef byth mwy ar y ddaear hon, ond yr wyf yn gobeithio cael ei weled yn y dydd hwnw, pan y delo Mab Duw i ymofyn am ei berlau o lwch y bedd; acy caiff ef a minau, gydâ holl dyrfa fawr y gwaredigion, gyd fwynhau a chyd glodfori yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun. Bu yn felus genym ei gyd bregethu ef lawer gwaith yma, er maint ein gwaeledd; a pha faint mwy melus y bydd genym ei gyd folianu ef fry, heb waeledd o un math yn ei flino ef na ninau.

Clywais na bu dim llawer o gyfnewidiad arno er pan y gwelaswn i ef; ond ei fod yn myned wanach wanach yn raddol bob dydd: ond er llygru y dyn oddi allan, eto yr oedd y dyn oddi mewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. Y testun olaf y pregethodd efe arno oedd, Job xlii. 5, 6. "Myfi a glywais a'm clustiau son am danat ti, &c." Ar geiriau diweddaf a ysgrifenodd efe yn ei ddydd-lyfr oedd, "I'th law diy gorchymynaf fy ysbryd." Yr oedd hyny ar yr unfed-ar-ddeg o fis Mai, 1828; ac ar y pumed o Fehefin, llai na mis o amser ar ol hyny, gwrandawyd ei weddi, cafodd ei ddymuniad, ac ehedodd ei enaid sanctaidd yn ddiamau, i fwynâu dedwyddwch tragywyddol yn mhlith yr holl rai a