Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sancteiddiwyd. Er ei fod yn gwaelu yn raddol fel y dywedwyd, am rai misoedd, eto ni bu ond y tri diwrnod olaf o'i fywyd yn cadw ei wely. Yn hyn hefyd cafodd ei ddymuniad, sef "myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch." "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." "Efe a â i dangnefedd, hwy a orphwysant bob un yn ei hystafelloedd."

Ar y degfed o Fehefin, ymgynullodd torf fawr o'i gymydogion, a phelledigion hefyd, i hebrwng y rhan farwol o hono i'r tŷ thag-derfynedig i bob dyn byw. Yr oedd Mr. Williams wedi dymuno am i ddau o'i hen frodyr a'i gyd-weithwyr yn Mrycheiniog, y Parch. William Havard, a'r Parch. Maurice Davies, lefaru yn ei gladdedigaeth ef, ar Exodus xv. 16, ond gan nas gallwyd danfon gwybodaeth iddynt hwy mewn pryd, methwyd a chyflawni y rhan hono o ddeisyfiad ein hen frawd trancedig. Gan fod dau frawd o Sir Gaerfyrddin, sef Mrd. John Jones, o Landdeusant, a Josuah Phillips, o Bank-y-felin, ac hefyd y Parch. William Griffiths o Frowyr, yn Morganwg, yn dygwydd bod yn y gymydogaeth ar y pryd hwnw; buont hwy mor garedig a gweini ar yr achlysur galarus yn y drefn ganlynol:—Darllenodd a gweddiodd y brawd John Jones, yna llafarodd y brawd Josuah Phillips