Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar Phil. i. 21, yn gymraeg; ac ar ei o!, llafarodd y braw1 William Griffiths, yn saesoneg, ar Ioan x. 9. ac felly y terfynodd y gwasanaeth yn y tŷ, cyn cychwyn y corph tu a hen gladdfa gyssegredig ei dad a'i fam, yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn. Afraid yw sylwi, iddo gael ei gladdu yno, yn ol dull yr Eglwys Sefydledig o gladdu pawb; "mewn gwir ddiogel obaith i adgyfodiad i fuchedd dragwyddol, &c," a thybiwn nad oedd dim yn groes gan yr un ymneillduwr a'i hadwaenai, ac a oedd yno yn bresenol, glywed darllen y cyfryw eiriau uwch ben ei feddrod ef. O mor addas a phrydferth yw holl wasanaeth y claddedigaeth yn Eglwys Loegr, i'w ddarllen wrth gladdu dyn duwiol.

Rhoddwyd maen hardd ar fedd Mr. Williams, yn mhen ychydig ar ol ei gladdu; a'r ysgrif addas a ganlyn yn gerfiedig arno: a sylwer, mai ar ei ddeisyfiad ef ei hun y rhoddwyd y geiriau olaf, yr hyn a ddengys ei feddwl isel am dano ei hun hyd ei ddiwedd, yn nghyd a'r ysbryd diolchgar oedd yn llanw ei enaid am yr hyn a wnaethai yr Arglwydd erddo.