Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADGOFION 'CHWANEGOL.

Yr oedd Mr. Williams mewn amgylchiadau pur cysurus o ran pethau y byd hwn; ac wedi marwolaeth ei frawd, gellir dywedyd ei fod yn oludog Ni bu erioed yn briod; (na'i frawd ychwaith,) gan hyny nid oedd ganddo deulu, namyn chwïorydd, a phlant y rhai hyny, felly yr oedd ganddo lawer mwy o gyfoeth nag a allasai dreulio arno ei hun. Yr oedd efe yn mhell iawn o fod yn grintachus ar y naill law, ac o fod yn afradus ar y llaw arall. Yr oedd wedi cael ei ddysgu gan yr efengyl sanctaidd, ac o naturiaeth hefyd, i gadw llwybr canol rhwng y ddau eithafion hyny, y rhai sydd mor wrthun a phechadurus yn mhob dyn crefyddol, ac yn enwedig yn mhob gweinidog yr efengyl.

Yr oedd ei dy ef yn agored yn wastad i bregethwyr teithiol o ba le bynag y deuent, a rhoddai ef yn ewyllysgar iawn, bob croesaw ac ymgeledd, i'r dyn ac i'w anifail hefyd, fel nad oedd hyny yn costio dim i eglwysi gweinion y gymydogaeth. Anaml hefyd y byddai yr un pregethwr tlawd yn troi ymaith i'w daith y boreu dranoeth, na byddai i Mr. Williams roddi rhyw swmyn o arian yn ei