Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

law, fel anrheg elusengar wrth ymadael. Teimlir y golled am dano yn ddiau yn hyn, fel mewn llawer o bethau eraill, gan y tô presenol o bregethwyr isel eu hamgylchiadau, a arferent ddod i Bant-y-celyn.

Pell iawn oedd Mr. Williams o geisio clod iddo ei hun yn ei elusenau a'i weithredoedd da: gochelai yn fanwl rhag ei gwneuthur yn ngwydd dynion; a braidd y gwypai ei law aswy pa beth a wnelai ei law ddeau, o herwydd y dirgeleidd-dra gofalus hyn, nid hawdd yw gwybod pa faint oedd ef yn roddi mewn elusenau i'r tlodion, ac mewn cyfraniadau at achos Duw. Gellir casglu oddiwrth bethau a gafwyd yn ysgrifenedig yn mhlith ei bapurau ar ol iddo farw, ei fod yn rhoddi yn gyffredin at achos yr Arglwydd, ac mewn elusenau, o gant i ddau cant o bunau bob blwyddyn, am y deng mlynedd diweddaf o'i oes, a rhai blynyddoedd, gymaint a dau cant a haner-o bunau! Pe gwnelai pawb yn ol ei gallu a'i sefyllfa yn gyfatebol i'r gwr duwiol a hael-fryd hwn, byddai yn hawdd danfon Cenadau a Beiblau dros y byd; byddai yn hawdd sefydlu ysgolion sabbathawl yn mhob man lle nad ydynt, byddai yn hawdd cynal achos Duw mewn eglwysi gweiniaid; a gwnelid i galon y wraig weddw lawenychu mewn llawer man, lle mae yn awr yn galaru gan dlodi ac angen.