Heblaw ei gyfraniadau blynyddawl ac achlysurawl yn ei fywyd, nid anghofiodd efe achos Duw a'r tlodion yn ei ewyllys ddiweddaf, fel gellir gweled wrth yr hyn a ganlyn:
I gymdeithas genhadol Llundain..........................................£100
I'r gymdeithas genhadol eglwysig........................................£100
I gymdeithas yr ysgol sabbathol yn yr Iwerddon..........................£100
At dalu dyledion capelydd y Methodistiaid Calfinaidd, yn Mrycheiniog....£100
At gynal yr achos yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanddyfri, rhoddodd bum' punt y flwyddyn, tra fyddo byw ei nại Mr. William Powel, yn awr o Bant-y-celyn. Ar ol talu amryw gymmynion (legacies,) eraill: traul ei gladdedigaeth, a phob man ofynion; mae y gweddill[1] o'i dda symudol, sef ei arian i gael ei rhanu yn gyfartal rhwng Cymdeithas Genhadol Llundain; Cymdeithas Genhadol yr Eglwys; a'r Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor: oddigerth rhyw symiau bychain sydd i gael eu rhanu rhwng tlodion y gymydogaeth, yn ol fel y gwelo y cymmyn-weinydd yn angenrheidiol.
Mewn hen lyfr ysgrifen o eiddo Mr. Williams, gwelir cofnodiad fel hyn mewn un man, "Mary
- ↑ Y cwbl yn gwneuthur i fynu rhwng wyth a naw cant punt.