Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bartlet wedi bod lawer o sabbathau heb fara i'w fwyta, &c." Gellid meddwl mai rhyw gymydoges. dlawd iddo oedd y wraig uchod, a'i fod yntau fel Job yn chwilio allan y cwyn ni wyddai, gan ei nodi yn ei gof-lyfr i'r dyben o'i chynorthwyo yn ei thlodi. "Y cyfiawn a ystyria fatter y tlodion, ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod." Felly yn amlwg y gwnai y gwr duwiol hwn, yn ei oes ac wrth farw hefyd; a diamau iddo brofi cyflawniad o'r addewid hono. "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd."[1]

Crefydd Enoc, a Noa, ydoedd crefydd Mr. Williams, diamau y byddai yn rhodio llawer gydâ

  1. Er bod Mr. Williams yn enwog fel dyn, fel ysgolhaig, fel cristion, ac fel gweinidog ffyddlon; eto, ei brif ragoriaeth ef oedd ei elusengarwch. Ni welodd Cymru ond ambell un cyffelyb iddo yn y rhinwedd ganmoladwy hono; ac ar ei ol nid adwaen yr ysgrifenydd yr un tebyg iddo. Mynych y dywedai air yr apostol, mai "dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." Act. 20. 35. "Yn lle fy nanfon i i'r byd i gardota," ebai efe, "mae yr Arglwydd yn rhoddi modd i mi i gyfranu cardod i bob un sydd yn galw, os na bydd i'm calon ddrwg fy lluddias. O Arglwydd, dyro ddoethineb i mi, i ddefnyddio yr holl drugareddau a roddaist i mi, fel un yn credu bod yn rhaid rhoddi cyfrif. I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo.' Luc 12. 48. Pa fodd y gallaf feddwl fy mod yn tebygu i ti yn sancteiddrwydd dy natur, os nad wyf yn tebygu i ti yn naioni dy natur; canys ti O Arglwydd ydwyt dda a maddeugar; ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat. Gwr da sydd gymmwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei holl achosion." Byddai geiriau yr apostol ar ei feddwl yn fawr hefyd am elusengarwch. 1 Ioan 3. 17-21. Ond yn awr mae efe yn gorphwys oddiwrth ei lafur, a'i weithredoedd sydd yn ei ganlyn.