Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw, fel hwythau: ac hefyd yn mynych gyflwyno ei hunan i Dduw a'i wasanaeth, fel yr ymddengys wrth yr hyn a ganlyn, yr hyn a gyfieithwyd o bapyryn Saesoneg, a gafwyd wedi ei wthio i gongl ddirgel yn un o'i lyfrau llogell ef:—"Yr wyf yn awr yn cael y fraint rasol o ddechreu blwyddyn newydd: pa un a gaf fi byth weled ei diwedd hi a'i peidio, nis gwn; pa un bynag am hyny, bydded yr amser a ganiataer i mi ychydig neu lawer, ond i'r Arglwydd roddi gras i mi i fod yn ffyddlon. Mae arnaf eisiau help a chymorth, ac yr wyf yn eu gofyn gan y nef ei hun, i dreulio yr hyn sydd yn ol o'm dyddiau yn fwy nag erioed er gogoniant y gwaredwr bendigedig hwnw, yr hwn a wnaed yn felldith dros fyd melldigedig. Nerth i gyflwyno fy hunan yn hollawl, gorph ag enaid, ac oll sydd ynof, i'w ogoniant ef. Ac yr wyf fel hyn yn addaw ac yn addunedu, i gyssegru gweddill fy nyddiau i Dduw ac i'w ewyllys ef, tra parhawyf i dynnu yr anadl fywiol hon. Nid wyf yn beiddio meddwl y cyflawnaf yr addunedau hyn gan ymddiried yn fy nigonoldeb fy hun; ond gan weddio ar i Dduw, o’i helaeth a'i anfeidrol ras, fy nghynorthwyo i, i redeg yr yrfa a osodwyd o'm blaen, ar iddo ef fy nerthu i'w ofni yn wastadol â pharchedig ofn: fy nerthu i'w garu ef, ac ef yn unig, tra byddwyf yn ymdaith yn y byd daearol hwn: ac yn y diwedd, cael o honof ei ogoniant tragywyddol ef, trwy Alpha ac