Omega iachawdwriaeth dynion, Fel prawf o'm cyd-syniad a'r pethau uchod, yr wyf yn ewyllysgar jawn yn gosod fy enw wrth yr ysgrif hon."
"JOHN WILLIAMS."
Nis gwyddis pa bryd yr ysgrifenodd efe y papyryn uchod, gan nad oes yr un amseriad wrtho; ond mewn un arall o'i lyfrau mae ysgrif debyg i'r un uchod i'w chael a dyddiad wrthi. Gan nad yw ond bèr, ac yn dangos agwedd meddwl y gwr duwiol hwn yn oleu ac yn hyfryd iawn, dodwn gyfieithad o honi fel hyn:
"Ionawr 1af, 1790.
"Trwy fawr drugaredd a daioni Duw, cefais y fraint unwaith eto, o weled dechreu blwyddyn arall. Yr wyf yn ostyngeiddiaf yn attolygu, ac yn y modd taeraf yn crefu, ar i Dduw o'i anfeidrol drugaredd a'i ras, gyfranu i mi y cynnorthwyon dwyfol a neillduol hyny, mae efe yn eu cyfranu i'w bobl fel y galluoger fi i gyssegru fy hunan iddo yn fwy diragrith a ffyddlawn nac erioed."
"JOHN WILLIAMS."
Fel hyn y byddai y gwr Duw' hwn yn mynych ‘gyfrif ei ddyddiau;' yn mynych gyflwyno ei hun i'r Arglwydd; yn ymwadu â'i nerth ac a'i gyfiawnder ei hun; yn hollawl ymorphwys ar Berson a gwaith