Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hwn sydd yn Alpha ac yn Omega yn iachawdwriaeth dyn; ac yn taer weddio am nerthoedd a doniau yr Ysbryd Glân, i gyflawni ei weinidogaeth, i gadw ei le, ac i harddu athrawiaeth Duw ei Iach, awdwr yn mhob peth. Y fraint a gaffom ninnau oll, o fod yn ddilynwyr iddo ef, megis y bu yntau i Grist.

Ryw yspaid o amser cyn ei farw, danfonodd y llythyr canlynol at hen gyfaill[1] anwyl iddo; a diammau ei fod yn werth ei gyfieithu a'i argraffu yn mhlith yr adgofion hyn.

"Am fy iechyd i, go ganolig yw, yr wyf yn gweddio Duw yn ddifrifol, ar iddo fy ngwneuthur yn ymostyngar i'w ewyllys ef, a pheidio mewn un modd a bod yn anfoddlawn i'w driniaethau ef. O pa fath bechod mawr yw, bod yn anoddefgar dan wialen Tad nefol! Yr wyf fi yn gwbl analluog i fyned i unman oddi cartref yn awr; ond yr wyf yn parâu i bregethu ychydig yn fy nhŷ fy hun, ac ac mae fy nghymydogion yn dyfod yn nghyd ́ac yn ei lenwi yn dda."

"Byddwch cystal a'm cofio i yn garedig iawn at y bobl yn eich eglwys chwi, ac erchwch iddynt yn mlaenaf o bob peth, i arfer pob diwydrwydd i

  1. Mr. Jones, Llwyndewi, Llangadog.