Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneuthur eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth yn sicr, o blegid y mae yn sicr yn Nuw. Yn ail, i wneuthur Duw a'i air yn unig sylfaen i adeiladu arni. Yn drydydd, pa le bynag y byddont dywedwch wrthynt am gario eu crefydd gydâ hwynt. Yn bedwerydd, i ochelyd pob pechod, yn fwy nac unrhyw wawd, neu air du a daflo'r byd arnynt. Yn bummed, i ymgais llawer am ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw o fawr werth. Yn chwechfed, bydded iddynt ymgais am wneuthur rhyw ddaioni yn wyneb pob croes a thrallod · a'i cyfarfyddo. Yn saithfed, bydded iddynt weddio llawer, ar i esiampl Crist fod o'u blaen yn mhob amgylchiad a sefyllfa."

"JOHN WILLIAMS."

Llawer iawn o ddywediadau byrion, ond geirwir a gwerthfawr, sydd ganddo wedi eu hysgrifenu yn ei 'sgrif-lyfrau; ond y mae yn anhawdd gwybod am lawer o honynt, pa un a'i yr eiddo ef ei hun ydynt, ai yntau eu cymeryd o ryw lyfrau eraill a wnaeth. Am y byr weddiau canlynol, mae yn sicr mai efe ei hun oedd yn ei hucheneidio i'r nef, fel hen Jacob gynt, (Gen. 49. 18.) yn nghanol pob trafferthion a gorchwylion eraill, dodwn y tair ganlynol i lawr yma.