Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwefror 26, 1827.

"O Arglwydd dyro i mi ddoethineb i ymddwyn yn addas yn mhob peth."

Tachwedd 8fed.

"Cynnorthwya fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob peth drwg!"
"Nertha fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob rhith ddrygioni!"

Mae y sylwad canlynol ar baganiaeth a christionogaeth yn gymraeg ganddo; mae yn debyg maj yr eiddo ef ei hun yw, ac mae yn cynnwys llawer o wir, hyd yn nod y dydd heddyw:

"Mae rhywbeth rhyfedd iawn yn ymddangosiad paganiaeth a christionogaeth; mae cristionogaeth yn ymddangos fel pe byddai yn teyrnasu, ac eto mae ei sylwedd wedi myned ymaith: a phaganiaeth fel pe byddai wedi ffoi, ac eto ei sylwedd yn aros." Mae y dywediadau canlynol hefyd wedi eu hysgrifenu yn gymraeg ganddo, ac am hyny yn fwy tebyg i fod yn eiddo ef ei hun:—"Nid oes dim yn fwy anwadal, gwammal, ac ansafadwy, na pharch dynion." "Y dywediad arall yw hwn :—"Barn y byd yn gyffredinol yw, bod y da sydd ynddynt, eu haelioni, a'i rhinweddau, yn fwy na'u drwg; ac y pwysa eu da y drwg i lawr yn y dydd mawr." Ac