Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y dywediad hwn o eiddo ei dad, yn deilwng iawn hefyd o'i gadw mewn coffadwriaeth, ac o sylw pawb yn y weinidogaeth:—"Mae pregethwr heb eondra fel durlif heb ddannedd, fel cyllell heb awch, ac fel milwr heb galon." Nid eondra dynol, yn tarddu oddi ar gryfder tymherau naturiol, yr hyn nid yw ddim ond digywilydd-dra, oedd yr hen wr duwiol yn ei feddwl yn ddiau; eithr yr eondra sanctaidd hwnw mae yr Arglwydd yn ei roddi yn eneidiau ei holl weision anfonedig, pan mae yn gosod gair y cymod ynddynt, pan mae cariad Crist yn eu cymhell, pan maent yn ofn yr Arglwydd yn perswadio dynion, a phan y maent yn cael eu gwisgo â nerth o'r uchelder. Yn yr ystyr yna o'r gair eondra, mae y dywediad yn wir iawn; mae yn hollawl angenrheidiol i waith mawr y weinidogaeth. Ar y naill law nid oes dim yn fwy gwrthun i'w weled na dyn cryf hunanol, yn ymruthro i ymdrin a phethau Duw yn ei hyfdra digywilydd ei hunan; ac ar y llaw arall, nid oes dim yn fwy prydferth a hardd, na gweled y dyn gwylaidd, duwiol, a chrynedig, yn cael ei godi gan ddylanwadau yr Ysbryd Glân uwchlaw iddo ei hun a'i holl ofnau, ac yn agoryd ei enau yn hyf, i draethu gwirioneddau Duw fel y perthyn ac y gweddai eu traethu. Rhyfedd fel mae y Duw grasol wedi gwneud hyn â llawer o'i genadon gweiniaid lawer gwaith. Yna y gallant ddywedyd gydâ'r prophwyd Mica, Pen.