Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.8. "Yn ddiau llawn wyf fi o rym gan Ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel." Yna y gallant ddywedyd gyda'r apostol, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr." 2 Cor. 10. 4. Mae y nerth hwn o'r uchelder yn angenrheidiol i'r pregethwr enwog, doniol, a mwyaf dysgedig; hebddo nis gall efe wneuthur dim: ac mae y nerth hwn yn ddigon i'r cynghorwr isel-fryd, bychan ei ddawn, a llai ei ddysgeidiaeth, er mor grynedig ac ofnus ydyw, wrth deimlo ei wendid, a'i annigonoldeb ynddo ei hun, i fod yn genad Arglwydd y lluoedd at bechaduriaid.

Gwr iach, cadarn a goleu yn yr athrawiaeth, ydoedd Mr. Williams. Er nas galwai efe neb yn dad iddo ar y ddaear; eto, yr hyn a elwir Calfinistiaeth, yn yr ystyr gywiraf o'r gair, oedd ei gredo diysgog ef. Yr oedd yn berffaith gyson a bannau ffydd yr Eglwys Sefydledig, yn yr hon y dechreuodd ei weinidogaeth; ac hefyd a Chyffes Ffydd[1] y Methodistiaid

  1. Mewn perthynas i'r llyfr uchod, mae y sylw canlynol ganddo wedi ei ysgrifenu yn un o'i lyfrau-Heddyw y darlenais gyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Erioed ni chymerodd dynion llai eu dysg a llai eu rhagfarn arnynt gyfansoddi Cyffes Ffydd; ond y mae gwendid Duw yn gryfach na dynion, a ffolineb Duw yn ddoethach na dynion. Mae yr Eurgrawn Efengylaidd yn rhoddi canmoliaeth iddo; ond pe cawsai ei feirniadu gan lu y nef, mi debygwn mai eu dedfryd a fuasai, "Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn!"