Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Calfinaidd, yn mhlith pa rai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ond, yr hyn sydd fwy na'r cwbl, yr oedd yr hyn oll a gredai ac a bregethai efe, yn hollawl gyd-gordiol ag anffaeledig wirionedd Duw, wedi ei sylfaenu a'i oruwch-adeiladu ar sail yr apostolion a'r prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen; yn bob peth ac yn mhob peth, yn ei athrawiaeth, ei weinidogaeth, ei brofiad a'i holl ymarweddiad ef. Pell iawn ydoedd efe oddi wrth ddeddfoldeb ar y naill law, ac oddi wrth anneddfoldeb (antinomianism,) ar y llaw arall. Am Arminiaeth neu ddeddfoldeb, mae yr hyn a ganlyn yn ysgrifenedig yn un o'i lyfrau, "Esgusoder fi, os credaf dystiolaeth Crist yn hytrach na dadleuon cecrus Arminiaeth-yn hytrach na gwysia yr Hollalluog i gael ei brofi ger bron gorsedd-faingc ein syniadau ni, a gosod ein hunain i fynu yn farnwyr y Duwdod." Eto, "nid yw arfaeth Duw fel ceiliog gwynt, i gyfnewid, a throi o amgylch, fel y dygwyddo i awel ewyllys rydd dyn chwythu." Am anneddfoldeb, yr oedd ei bregethau, ac yn enwedig manylrwvdd ei fuchedd sanctaidd, yn brofion digon amlwg i bawb, ei fod yn ffieiddio â châs cyflawn, y ffos leidiog hono.

Er bod Mr. Williams yn ysgolhaig rhagorol, ac yn dra hyddysg yn yr ieithoedd dysgedig, ac yn enwedig yn ieithoedd gwreiddiol yr Hen Destament a'r