Newydd; eto, nid oedd yn wr ymadroddus, nac yn meddu llawer o hyawdledd areithyddol, o leiaf, nid oedd yn ymgais am ddangos hyny yn ei bregethau cyhoeddus. Ei lwybr mwyaf hoff a mwyaf arferedig ef wrth bregethu oedd, egluro ei destun yn fanwl; ac yr oedd ganddo lawer o gymmwysiadau i hyny o herwydd ei wybodaeth o'r ieithoedd gwreiddiol, defodau ac arferion gwledydd y dwyrain, &c.
Ar ol agor ei destun, sylwai ar yr athrawiaeth a gynnwysai, a dybenai gydâg ychydig o addysgiadau cymmwysiadol. Byrion fyddai ei bregethau ef yn gyffredin, anaml y parâai dros haner awr, ond yr oeddent yn addysgiadol iawn, ac yn fywiog, nid hawdd oedd i neb ei wrando ef yn ddiofal, na myned o'r oedfa heb gael rhyw oleuni ar y gwirionedd nad oedd ganddo o'r blaen.[1]
- ↑ Fel pregethwr yr oedd Mr. Williams yn hynod o barchus chymeradwy gan bawb ag oedd yn adnabod y gwirionedd ac yn ei garu mynych y meddyliai yr ysgrifenydd wrth ei wrando am eiriau Dafydd, "Agoriad dy eiriau a rydd oleuni." Salm 119. 130. Er nad oedd yn hyawdl, fel y dywedwyd uchod; eto, yr oedd ei eiriau yn addas, a'i lais yn dreiddgar. Cyn darllen ei destun dywedai bob amser, 'Gair yr Arglwydd,' yna darllenai yr adnod mewn cywair uchel a hyglyw, ddwy neu dair gwaith drosodd. A phob ysgrythyr a goffaau yn ei bregeth, dyrchafai radd ar ei lais yn uwch na phan ddefnyddiai ei ymadroddion ei hun. Da iawn fyddai i laweroedd o bregethwyr Cymru ymdebygu iddo yn hyn, ac nid darllen ei testynau mewn llais mor isel fel na chlyw mo haner y gynnulleidfa bwynt, ac yn mhen ychydig, bloeddiant eu pethau eu hunain yn ddigon uchel ag y gallo deng mil o ddynion eu clywed. Am bregethau hirion, byddai Mr. Williams yn arfer dywedyd, nad oedd yr un pregethwr braidd yn ynys Brydain wedi amser y Puritaniaid, yn meddu digon o gymmwysder i bregethu awr heb flino mwy na hanner eu gwrandawyr; ac os treulir dros ddeng munud mewn gweddi, beth bynag o hyfrydwch a gaffo y dyn ei hun, holl waith eraill fydd disgwyl iddo ddarfod.