Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn nghymdeithas yr eglwys, sef y cyfarfodydd profiad, ychydig a ddywedai efe ar y tro. Codai i fynu, a dywedai ychydig eiriau, yn addas a pherthynol iawn i'r matter a fyddai dan sylw, ac yna eisteddai i lawr hyd oni ddelai rhyw beth ar ei feddwl drachefn. Yn nghyfarfodydd misol y Sir, hefyd yr un fath bedd efe; ychydig a ddywedai efe ar y tro ar unrhyw bwnc; ond hyny a ddywedai byddai mór brïodol ac addas i'r perwyl, fel y byddai ei holl frodyr, llafarwyr a blaenoriaid, yn ymostwng iddo, ac yn cydnabod uniondeb ei sylwadau. Gostyngedig a hunan ymwadol iawn oedd efe yn y cyfarfodydd hyn, er bod ei ddysgeidiaeth a'i wybodaeth am bethau duwinyddol, yn rhagori ar bawb o'i frodyr, a phawb o honynt yn rhoddi y flaenoriaeth iddo; eto, wrth draed pawb y mynai efe fod. Ar yr un pryd, os dangosai neb ryw arwydd o anmharch neu ddirmyg arno, efe a welai ac a deimlai hyny mor fuan a rhywun arall; ond yr oedd yn meddu doethineb, a gras digonol hefyd, i beidio dangos i neb ei fod wedi cael ei gythruddo; tangnefeddus oedd efe ei hun, a charai dangnefedd yn mhob màn,