Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn enwedig yn mhlith ei frodyr crefyddol. Mae y sylw canlynol ganddo ar y mater hwn, yn ysgrifenedig yn un o lyfrau:—"Mae tymher gwerylgar mewn perygl mawr o gynnyddu yn arferiad drwg iawn ; ac yn fynych yn gwneud cyfeillach dyn yn dra annymunol. Heblaw y surni mae yn genedlu mewn cyd-ymddiddanion, mae yn aml yn creu annghymeradwyaeth, ie, a chasineb, rhwng dynion, i ba rai mae cyfeillgarwch yn anhepgorol angenrheidiol."

Mewn cyfeillach bersonol, ymddiddanai Mr. Williams yn rhydd iawn, ac wrth ei fodd, tra y cedwid at ryw bethau ysgrythyrol. Hoffai yn fawr egluro ac agor rhyw adnodau a fyddai yn dywyll ac yn ddyrus i'w gyd-ymddiddanydd, ond cyn gynted ag y tawai ei gyfaill, a pheidio gofyn rhywbeth yn ychwaneg iddo, ymddangosai yn anesmwyth ac aflonydd, codai ar ei draed, ac âi allan o'r ystafell:nid oedd ynddo ef ei hun, nemawr o ddawn cymdeithasu, ond fel yr holid ef, ac y tynid ef yn y blaen mewn cyfeillach.

Pan fyddai yn disgwyl rhyw gyfaill, megis pregethwr neu rywun arall, i'w dŷ, byddai yn ysgrifenu amryw holiadau a fyddai ar ei feddwl ofyn iddo, ar ddarn o bapyr cyn ei ddyfod; ac yna pan ddeuai, cymerai ei bapyr yn ei law, a gofynai yr holiad cyntaf; gwedi cael atteb i hwnw, âi allan, odid, ac