Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y màn deuai yn ei ol, a gofynai'rail holiad, ac felly hyd onid elai dros y cwbl. Gan y byddai ei feddwl yn wastad yn myfyrio ar ryw bethau eraill, byddai yn gwneyd hyn, mae'n debyg ar ryw fynyd lonydd, i gynnorthwyo ei gof, erbyn y delai y gwr dïeithr i'w dŷ. Byddai ganddo ryw bobl dlodion agos yn mhob cwr o Sir Frycheiniog, y rhai a dderbynient ryw gyfran o elusen ganddo am flynyddoedd ; a llawer o'r holiadau uchod a fyddai yn nghylch y rhai hyny, yn nghyd ag agwedd achos Duw yn nghyrau pellaf y Sir. Arferai hyn yn enwedig yn ei flynyddoedd diweddaf, ar ol iddo fethu teithio, ac ymweled a'r eglwysi ei hun.

Mae yn debyg na chyhoeddodd Mr. Williams ddim drwy yrargraffwasg, namyn Hymnau gwerthfawr a melusion ei dad; ac hefyd cyfieithad o lyfryn Saesoneg ar Athrawiaeth y Drindod. Nid yw yn hysbys i'r ysgrifenydd chwaith a oedd dawn pryd yddu ganddo ef, yr hon oedd mor helaeth a godidog gan ei dad. Wrth y cyfieithad a wnaeth o'r hymn Saesoneg felus hono, O'er the gloomy hills of darkness, &c, (gwel argraffiad 1811, tu dal. 410.) gellir meddwl bod y ddawn ganddo, ac yr ysbryd hefyd, yn debyg iawn i'w dad; ond wrth edrych ar amryw bennillion sydd ganddo draw ac yma ar hyd