Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ysgrif-lyfrau, gellid meddwl nad oedd y ddawn brydyddol ganddo, nid yw y rhai hyny ond lled anmherffaith a chlogyrnaidd,. Dywed un o'i berthynasau, bod yn ei feddiant ef ysgrif-lyfr go fawr o hymnau a ganodd efe, a thybia mai cyfieithiadau ydynt o hymnau Mr. Cennic, pregethwr oedd yn cyd-oesi a'r Parch. G. Whitfield, ac yn pregethu yn nghyfundeb y gwr enwog hwnw. Bob amser y gofynai ysgrifenydd y cofiant hwn iddo pa ham na chyfansoddai hymnau, ei ateb oedd, "Bod ei dad wedi canu digon." Mae ganddo ar ei ol lawer iawn o bregethau, efallai tua mil, wedi eu hysgrifenu, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesoneg:ond y rhai Saesoneg sydd wedi eu hysgrifenu helaethaf, a manylaf o lawer.

Bu Mr. Williams yn y weinidogaeth o gwbl yr yspaid hirfaith o 49 o flynyddoedd. Urddwyd ef yn Offeiriad yn y flwyddyn 1779, sef pan oedd yn 25 oed. Gadawodd yr Eglwys Sefydledig yn y flwyddyn 1786, gwedi bod yn llafurio ynddi saith mlynedd. Bu yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca o Ionawr 1786, hyd Ebrill 1791, sef tua phum mlynedd a hanner, rhwng y tri mis y buasai yno o'r blaen, yn lle Mr. Phillips. Gadawodd yr ysgol hono fel y dywedwyd yn 1791, a llafuriodd yn ffyddlon ac yn dderbyniol iawn yn nghyfundeb y Methodist-