Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid Calfinaidd, o hyny hyd ddiwedd ei oes, sef 37 o flynyddoedd. Bu farw mewn oedran teg, (74 o flynyddoedd,) digonwyd ef â hir ddyddiau, a chafodd weled iachawdwriaeth Duw. Bu amryw o Offeiriaid duwiol Eglwys Loegr yn llafurus ac yn ddefnyddiol iawn yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd o'u dechreuad; nid oes yn awr ond ychydig iawn o honynt, heb gael eu symud i'r wlad ddedwydd hòno, lle nad oes gwahaniaeth rhwng enwau na phleidiau, ond pawb yn un corph yn Nghrist.

Wele yn canlyn ychydig eto o'i ddywediadau, a gafwyd yn ysgrifenedig yn tnhlith ei bapyrau. Addas iawn, debygai yr ysgrifenydd, yw ei sylw canlynol ar fedydd babanod:—

"Gweinyddu bedydd i blant rhïeni annuwiol, sydd foddion effeithiol i'w caledu mewn pechod; mae yn ddirmyg mawr ar yr ordinhâd, ac yn cryfâu breichiau y rhai a wrthwynebant fedydd babanod. Pe byddai pawb ag sydd o blaid bedyddio plant, yn cadw o fewn cylch gair Duw, ac yn peidio bedyddio neb ond had y ffyddloniaid, gan eu magu yn yr eglwys, a'u meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yn ol cyngor yr apostol, ac yn ol arfer eglwysi Bohemia; ni chlywem son am ail-fedyddio yn mhen ychydig flynyddoedd.' Tebyg iawn i hyna y sylwodd Matthew Henry; ebai efe, "Pe iawn ddefnyddid bedydd babanod