yn fwy cydwybodol, byddai llai o ddadleu yn ei erbyn."
Sylwai Mr. Williams ar hyfdra dynion yn pechu fel hyn:—"Mae dynion yn pechu fel pe byddent yn meddwl y bydd porth uffern wedi ei gauad i fynu cyn yr elont hwy yno."
Nid yw hunan-ymwadiad, a hunan-ffieiddiad, dyn duwiol, yn beth anghyson a thawelwch ei gydwybod, yn yr olwg ar ei ddiniweidrwydd:ni bu neb braidd yn fwy hunan-ymwadol na Mr. Williams; ac eto ni a'i cawn yn gwneyd y sylw canlynol am dano ei hun:-"Mae yn gysur genyf feddwl, na bûm i trwy wybod i mi, yn achos o ofid am un mynyd i neb erioed. Naddo, mwy nag y bûm yn achos o'r diffyg diweddar a fu ar y lleuad; ac ni bûm yn euog o un dichell-dro brwnt, yn holl ystod fy mywyd."
Mae yn debyg mai ychydig cyn ei ddiwedd yr ysgrifenodd y llinellau canlynol, pan oedd y dyn oddi allan yn gwaelu ac yn adfeilio, a'r enaid yn hiraethu am y tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd. "O na byddai fy enaid mor debyg i'r nef ag yw fy nghorph i'r ddaear; nid yw yr hen babell briddlyd yn ateb dim dyben i mi y dyddiau hyn, ond i fod yn hîn-ddangosydd, (Barometer,) i arwyddo cyfnewidiad y tywydd. Ond y mae