Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyw beth o dynfa yn fy ysbryd at y rhai sydd wedi eu perffeithio."

Yn mhlith pethau eraill, mae y cofnodiad canlynol ganddo yn un o'i ysgrif-lyfrau, am ryw hen ŵr duwiol, adnabyddus iddo ef, ag oedd wedi marw:-"Mae yr hen —— o ——wedi gorphen ei yrfa! Dywedodd ar ei wely angeu, "Yr wyf yn cofio yr amser pe dywedasid wrthyf nad oedd ond un dyn o blwyf —— i fyned i uffern, buaswn yn sicr mai myfi oedd hwnw; ond yn awr trwy drugaredd, pe dywedid wrthyf nad oes ond un i fyned i'r nefoedd, gwn mai myfi yw efe."

Llawer o bethau eraill a allesid ei ychwanegu mewn perthynas i'r gwas fyddlon hwn i Grist, ond rhag chwyddo y llyfr i ormod o faintioli, ac mewn canlyniad i fwy o bris; mi gaf ddiweddu hyn o hanes gyda'r penillion canlynol, yn nghyd ag ychydig o sylwadau ar y geiriau a ddymunodd efe i fod yn destun, ar ddydd ei gladdedigaeth.

YCHYDIG BENILLION,
PERTHYNAWL I'R COFIANT BLAENOROL.
[Teithiwr yn Mynwent Llanfair-ar-y-bryn.]


BETH yw enw y fynwent yma?
Mynwent Llanfair-ar-y-bryn,