O mor llonydd lle yw'r gladdfa!
Beth yw'r argraffiadau hyn?
William Williams, Pant-y-celyn!
Ow, a'i dyma ei feddrod ef?
Sant a fedrai chwarae ei delyn,
Braidd fel angel yn y nef!
Gwr o ddysg, a dawn, ac ysbryd,
Digyffelyb yn ei oes,
Do, fe ganodd odlau hyfryd,
Hymnau mawl am waed y groes;
Gwelodd deyrnas y Messiah,
Canodd am ei llwyddiant hi;
Theomemphus, ow, a'i dyma
'R fan lle rhoddes angeu di!
Nid oes ond y briddell yma,
Fry mae'r enaid heb ddim poen,
Yn derchafu'r haleluia
Beraidd byth am waed yr Oen;
Gydâ Rowlands o Langeitho,
Harris hen, a Jones Langàn:—
Mi gaf finnau, rwy'n gobeithio,
Ddyfod attoch yn y man.
Pwy sydd yma eto'n gorwedd,
Dan y garreg lydan hon,
Wrth dy ymyl yn y ceu-fedd? [1]
Beth yw'r enw cyntaf? John!
- ↑ Dymunodd gael ei gladdu mewn bedd newydd, yr hyn a fuasai yn anmhossibl, oni buasai i hen sycamorwydden gael ei diwreiddio yn ymyl bedd ei dad.