Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ië, yn wir, John Williams ydyw,
Mab yr hen ganiedydd per,
Mae ei enaid yntau heddyw,
'N iach a siriol uwch y ser.

Gwr dysgedig iawn a doniol, [1]
Ydoedd yntau fel ei dad,
Nid oedd undyn mwy rhinweddol,
Nag efe o fewn y wlad;
Tyst ei ddichlyn, sanctaidd fywyd,
Tyst ei bur athrawiaeth ef,
Tyst ei elusenau hefyd,
I dylodion gwlad a thref. [2]

Cafodd urddau llawn, Esgobaidd,
Pan yn bump-ar-hugain oed:
Urddau gwell a mwy nefolaidd,
Gydâ hyny iddo rhoed;

  1. Darllenai ran o'r Beibl Hebraeg bob dydd yn y blynyddoedd diweddaf o'i fywyd, ac fe allai nad oedd gwell Hebrewr yn y dywysogaeth, ac eglurai y gwahaniaeth sydd mewn rhai manau ya y cyfieithad. Hefyd, yr oedd yn Gymro rhagorol ac anhawdd cwrdd ag un a allasai roddi tarddiad geiriau Cymraeg, yn nghyd ag ystyr enwau lleoedd yn well nag ef. Yr oedd ganddo luosawgrwydd mawr o lyfrau mewn amrai ieithoedd, y rhai a adawodd yn ei ewyllys i nai iddo, sef y Parch. William Powell, Curad Llanllawddog a Llanpumsaint, gwr grymus yn yr efengyl, ac sydd yn debyg o wneud defnydd da o honynt.
  2. Yr oedd yn deall physygwriaeth yn dda, ond nid hoff oedd ganddo ymarferyd a hyny ei hun, ond pan glywai fod rhyw un isel ei amgylchiadau yn y gymydogaeth yn glaf, danfonai am law feddyg yn ddioed, a thalai iddo.