Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dawn yr Ysbryd o'r uchelder,
Oedd yr urdd a gafodd ef,
I draddodi mewn eglurder,
Genadwri fawr y nef.

Dysg, a dawn, ac aur, ac arian,
Corph, ac iechyd, tra fu byw,
A gyssegrodd ef yn gyfan,
At wasanaeth eglwys Dduw;
Ac wrth farw nid anghofiodd
Achos Duw, nac angen dyn,
Wrth ymadaw fe gyfranodd,
Yn haelionus i bob un.

Gorphwys, anwyl frawd, a huna,
Yn y beddrod tawel hwn,
Gydâ'th dad a'th fam gorwedda,
Ti gai lonydd yma, gwn;
Gydâ bloeddiad yr arch-angel,
Yn yr adgyfodiad mawr,
O dy wely priddlyd, tawel,
Cai gyfodi fel y wawr.

Wele, bellach mi adawaf,
Fynwent Llanfair-ar-y-bryn,
Trwy Frycheiniog mi dramwyaf,—
Beth yw'r holl wylofain hyn!
"Darfu, darfu, am y cyfiawn!
"Do, collasom ni ein tad,