Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Colled fawr yw colli'r uniawn,
"Colled eglwys, colled gwlad!"

Arglwydd Ior cysura Seion,
Sydd yn athrist iawn ei gwedd,
Herwydd bod ei hen athrawon,
Anwyl wedi myn'd i'r bedd;
Os collasom ein hoffeiriaid,
Gynt fu'n enwog yn y Dê,
Byth na âd y Methodistiaid,
Cyfod eraill yn eu lle.

Mae yr Ysbryd Glan a'i ddoniau,
Eto'n weddill genyt ti,
Er nad oes na chymmwysderau,
Na dysgeidiaeth genym ni;
Gwladaidd yw ein Gweinidogion,
Eto grymus yn eu Duw,
Presenoldeb Brenin Seion,
Fydd ein harddwch tra fo'm byw.

Deunaw cant a deunaw mlynedd,
Tair-ar-ddeg yn ol yn awr,
Pan y daethum i gyfanedd,
Yn Mrycheiniog, nid yw fawr
Un llafarwr oedd pryd hwnw,
Yno'n ie'ngach na myfi,
Jeffrey Davies wrth ei enw,
Goreu frawd a gwr o fri.