Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deg a phed war oedd yn hynach,
O rai enwog wrth y llyw,
O'r rhai hyny nid oes mwyach,
Onid chwech ar dir y byw;
Wyth o honynt aeth i huno,
Yn y distaw tywyll fedd,
A'u heneidiau sy'n gorphwyso,
Gyda'r Oen yn ngwlad yr hedd.

Ond er marw ein gweinidogion,
Byw yw'r weinidogaeth fawr,
Amlach ydyw ein cenadon
Yma, nac erioed yn awr;
Coll'som wyth mewn deuddeng mlynedd,
Cawsom bymtheg yn eu lle,
Diolch byth i Dduw'r gwirionedd,
Pethau mawr a wnaeth efe.

Ac heblaw chwanegu nifer
Y cenadon yn ein plith,
Cawsom hefyd o'r uchelder,
Ar ein gwlad wyrenig wlith;
Hen Frycheiniog a grechwenodd,
Pan esgorodd ar ei phlant,
Mewn tair blynedd fer 'chwanegodd
Iesu iddi lawn pum cant!

Onid ydyw hyn i'n hanog,
Frodyr oll, mewn ysbryd ffydd,