Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I lafurio yn galonog?
Dowch, a gweithiwn tra mae'n ddydd;
Ber yw'r einioes, bererinion,
Buan iawn yr awn i roi
Cyfrif am ein goruchwylion,
Nid yw angeu yn ymdroi.



Llwydd a fydd i'r Trefnyddion,—weis cydwedd,
Os cadwant orch'mynion,
Dianwych eu Duw union,
O ddiwael frwd dduwiol fron.


𝙿𝚁𝙴𝙶𝙴𝚃𝙷,
AR
EXODUS 15. 16.

Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.

Nid oes dim yn fwy difyrus i'w ddarllen na hanesyddiaeth, ac o bob hanesyddiaeth nid oes un yn deilwng i'w gydmaru a hanesyddiaeth y Beibl:yma y mae gwirionedd wedi ei ysgrifenu a bys Duw, a'r rhan amlaf yn cynwys meddwl ysbrydol yn gystal