Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llythyrenol, ac yn dwyn perthynas amlwg ag Eglwys Duw, yr hon a bwrcasodd efe a'i briod waed. Yr oedd Exodus yr Israeliaid o'r Aipht; eu gwaredigaeth o dan law Pharao, a'u mynediad trwy y mor coch, yn gysgodau neillduol o brynedigaeth pechaduriaid trwy Iesu Grist. Geiriau y testun ydynt ran o'r gân a ganodd Moses a meibion Israel ar lan y môr coch, yn wyneb eu bod wedi myned trwyddo yn diogel, a'u gelynion llidiog yr Aiphtiaid wedi eu boddi ynddo. Y mae'r gân hon oll yn hynod deilwng o'n sylw, o herwydd dyma'r gân gyntaf y mae genym hanes am dani erioed, ac nid yn unig y mae y gân hon yn haeddu sylw a pharch o herwydd ei hynafiaeth, ond yn benaf o herwydd ei chynhwysder a'i hysbrydolrwydd. Y mae yn berthynol nid yn yn unig i amgylchiad lythyrenol yr Israeliaid ar fin y mor coch, eithr hefyd mewn modd cyfriniol yn ateb i wir Eglwys Duw yn mhob oes hyd ddiwedd y byd:ac y mae ihan o honi yn cyrhaedd i dragywyddoldeb ei hun fel yr ymddengys oddi wrth y diwedd-glo, adn. 18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd. Y mae y rhan gyntaf o'r gân, hyd adn. 13, yn cynwys diolchgarwch am bethau wedi digwydd eisioes :gwaredigaethau wedi eu cael, a gelynion wedi eu gorchfygu; a'r rhan arall hyd y diwedd sydd mewn modd prophwydoliaethol, yn rhagfynegu am beth-